Useful Information For Parents
We know that the support of parents/carers is vital to ensure all our pupils achieve their potential. Therefore, we strive to forge strong links and develop good relationships before pupils even start in Year 7.
Communication
It is essential that the school and parents/carers maintain good communication throughout your child's school years. This can be maintained via the Pupil Planner or by speaking directly with their Head of Year. We encourage all parents to contact us immediately if they are worried or concerned about anything.
We strive to keep parents/carers well informed in general about school life and the progress of their children. However, it can sometimes be very difficult to offer regular and personal updates to every parent of nearly 1,300 pupils.
Some of the ways we try and achieve this are as follows:
- Pupil Planners - there is a wealth of information in the Pupil Planner, including key dates, parents' evenings, XL reviews and personalised information from subject teachers about your child.
- Pupil Reports - all pupils receive one summary report and one full report per year. The dates these are sent home are contained within the pupil planner.
- Telephone Calls - if there is an urgent matter which needs to be discussed, the school may telephone you at home or on a mobile phone.
- Face-to-Face Meetings - on occasions, we may need to meet you to discuss a matter of importance. Likewise, if you have a concern you are welcome to make an appointment to speak to your child's Head of Year or a member of senior staff at the school.
- School Website - the school website contains a wealth of information on the school, including details of our policies and procedures.
- Social Media - we use X (formerly Twitter) and other social media platforms to provide regular information on key events in school. You can subscribe to updates and keep up-to-date with your child's time in school. Regrettably, we cannot reply to messages sent through social media. If you have a query which requires a quick response, we would advise you to contact the school by telephone or email.
- School Newsletters - these are published and sent home every quarter with details of pupil achievements, key activities and events that have taken place. These also include key upcoming dates.
- Text Messaging - occasionally we may send you a text message if we need to convey an urgent message to a large number of parents (e.g. a school closure).
- MySchoolApp - we have a dedicated 'app' for your smartphone which can be downloaded from the Apple Store or Google Play Store.
Continuous Improvement
We are always looking for ways in which we can improve our communication and relationships with parents. In fact, we try and consult parents whenever we make key decisions within the school which may affect them. Every three years, we survey all parents to gain feedback on various aspects of the school and use this information to inform provision.
If you have any ideas, we would be more than happy to hear them. Whilst we can't promise to implement every idea, we can assure you that all will be carefully considered.
Gwybodaeth Ddefnyddiol i Rieni
Rydym yn llwyr sylweddoli bod cefnogaeth rhieni/gofalwyr yn hanfodol i sicrhau bod pob disgybl yn cyraedd ei botensial. Felly ceisiwn greu cysylltiadau cryf a pherthynas dda cyn i ddisgyblion ddechrau ym Mlwyddyn 7.
Cysylltiadau
Mae’n hanfodol bod yr ysgol a’r rhieni/gofalwyr yn cynnal cysylltiadau da trwy gydol blynddoedd ysgol eich plentyn. Gellir gwneud hyn trwy drefnydd personol disgyblion neu trwy siarad â’r Pennaeth Blwyddyn. Rydym yn annog pob rhiant i gysylltu a ni yn ddiymdroi os oes ganddynt bryderon am unrhyw beth.
Ceisiwn hysbysu rhieni/gofalwyr am fywyd cyffredinol yr ysgol ac am gynnydd eu plant. Fodd bynnag, gall weithiau fod yn anodd cynnig diweddariadau rheolaidd a phersonol i bob rhiant mewn ysgol o bron 1,300 disgybl.
Dyma rai o’r ffyrdd y ceisiwn gysylltu â rhieni:
- Trefnydd Personol - mae ‘na doreth o wybodaeth yn y trefnydd personol, yn cynnwys dyddiadau allweddol, nosweithiau rhieni, adolygiadau XL a gwybodaeth bersonol gan athrawon pwnc am eich plentyn.
- Adroddiadau Disgybl - bydd pob disgybl yn derbyn un adroddiad crynodebol ac un adroddiad llawn bob blwyddyn. Mae’r dyddiadau yr anfonir rhain adref wedi eu nodi yn y trefnydd personol.
- Galwadau ffôn - os oes angen trafod mater ar frys, gallai’r ysgol eich ffonio adref neu ar eich ffôn symudol.
- Cyfarfodydd wyneb yn wyneb - ar adegau mae’n bosib y bydd angen i ni eich cyfarfod i drafod materion o bwys. Yn yr un modd, os oes gennych bryderon mae croeso i chi wneud apwyntiad i siarad gyda Phennaeth Blwyddyn eich plentyn neu ag aelod o staff hŷn yr ysgol.
- Gwefan yr Ysgol - mae gwefan yr ysgol yn cynnwys toreth o wybodaeth am yr ysgol, yn cynnwys manylion polisi a threfn.
- Gwefannau Cymdeithasol - defnyddiwn Twitter yn rheolaidd i drosglwyddo gwybodaeth ar ddigwyddiadau allweddol yr ysgol. Gallwch danysgrifio i dderbyn diweddariadau er mwyn cael gwybodaeth gyfredol am gyfnod eich plentyn yn yr ysgol. Gwaetha’r modd, ni allwn ateb negeseuon a anfonir trwy Twitter. Os oes gennych ymholiad a bod angen ymateb cyflym arnoch, fe’ch cynghorir i gysylltu â’r ysgol trwy ffôn neu e-bost.
- Cylchlythyr yr Ysgol - Cyhoeddir ac anfonir rhain adref bob chwarter gyda manylion am lwyddiannau’r disgyblion a gweithgareddau allweddol.
- Negeseon Tecst - O bryd i’w gilydd gallwn anfon neges decst os oes angen cyfleu neges frys i nifer fawr o rieni (e.e. cau’r ysgol).
Gwella parhaus
Rydym bob amser yn edrych am ffyrdd o wella’r dulliau o gyfathrebu ynghyd â’n perthynas â rhieni. Mewn gwirionedd ceisiwn ymgynghori â rhieni pan wneir penderfyniadau allweddol fydd yn eu heffeithio. Bob tair mlynedd, cynhelir arolwg o farn rhieni ar wahanol agweddau o’r ysgol a defnyddiwn y wybodaeth i wella’r ddarpariaeth.
Os oes gennych unrhyw syniadau byddem yn falch o’u clywed. Ni allwn addo gweithredu pob syniad ond gallwn eich sicrhau y byddant yn cael ystyriaeth ofalus.