Cwmtawe takes Digital Safety extremely seriously and our students are continuously educated about the dangers of the internet throughout the year. This is achieved through IT lessons, pastoral lessons and school assemblies. Our Frog VLE has a dedicated Digital Safety page with practical help and advice and our web filters track, monitor and block inappropriate websites where necessary.
We are acutely aware that pupils also use a range of devices to connect to the internet outside school. Parents and carers are encouraged to contact us to seek advice if required on keeping their children safe online whilst at home. More information for parents, carers and pupils can be found on the Welsh Government’s HWB site and CEOP’s ThinkUKnow website.
Mae Cwmtawe yn trafod diogelwch digidol o ddifrif ac addysgwn ein disgyblion yn gyson am beryglon y we trwy gydol y flwyddyn. Gwneir hyn mewn gwersi technoleg gwybodaeth, gwersi bugeiliol ac mewn gwasanaethau ysgol. Mae gan ein Frog VLE dudalen Diogelwch Digidol sy’n rhoi cymorth ymarferol a chyngor. Mae ein ffiltrau we yn arolygu ac yn rhewi gwefannau amhriodol.
Rydym yn llwyr ymwybodol bod disgyblion yn defnyddio amrywiaeth o declynnau i gysylltu â’r we y tu allan i’r ysgol. Anogir rhieni a gofalwyr i gysylltu â ni i gael cyngor ar gadw eu plant yn ddiogel ar y we yn y cartref. Gall rhieni, gofalwyr a disgyblion gael mwy o wybodaeth ar Hwb Llywodraeth Cymru a gwefan CEOP’s ThinkUKnow.
Canllawiau i rieni/gofalwyr gadw plant yn ddiogel ar lein:-
1. Defnyddio meddalwedd ffiltro y we a modur archwilio addas i blant. Defnyddiwch reoleiddiwr eich we gan fod rhai yn cynnig gwahanol fathau o ddiogelwch ar gyfer pob aelod o’r teulu.
2. Edrychwch ar y gwasanaethau diogelwch plant ar eich darparydd gwasanaeth we (ISP) – a oes ganddynt ffiltr spam, er enghraifft? Os nad oes, gofynnwch pam.
3. Cadwch y cyfrifiadur mewn ardal o’r ty sy’n hwyluso’r gwaith o arolygu beth mae eich plant yn gwylio.
4. Dywedwch wrth blant am beidio rhoi manylion personol. Os hoffent danysgrifio i wasanaethau ar lein, dyfeisiwch gyfeiriad ebost teuluol i dderbyn post.
5. Mae plant yn dwlu sgwrsio ond sicrhewch mai dim ond ystafelloedd sgyrsio cymhedrol a ddefnyddiant ac anogwch nhw i’ch cyflwyno i’w ffrindiau ar lein.
6. Anogwch eich plant i ddweud wrthych os ydynt yn teimlo yn anghyfforddus, yn anhapus neu wedi eu bygwth gan unrhywbeth a welsant ar lein.
7. Cynhwyswch eich plant mewn trafodaethau ar ddyfeisio cod defnydd o’r we sy’n dderbyniol. Cofiwch nad yw’r hyn sy’n dderbyniol i blentyn yn ei arddegau o reidrwydd yn addas ar gyfer plentyn ysgol gynradd. Rhaid trafod y mater.
8. Mae offer cyfrifiadurol yn ddrud felly cofiwch hynny os yw eich plentyn yn cario cluniadur yn ôl ac ymlaen o’r ysgol.
9. Mae’r we yn adnodd gwych ar gyfer gwaith cartref ond cofiwch ddenfyddio mwy nag un safle i ymchwilio er mwyn cael gwybodaeth eang a chytbwys. Rhaid bob amser gyfeirnodi ffynonellau ymchwil.
10. Syrffiwch y we gyda’ch gilydd. Ewch ar lein gyda’ch plentyn a dewch yn ran o’u bywyd ar lein. Mae cyfathrebu yn allweddol i syrffio’r we yn ddiogel.